Pular para o conteúdo
Gwleidydda
PodcastNotíciasCY

Gwleidydda

NovoBe nesa' i Reform yn y Senedd?18 de novembro de 2026 · 34 min
Episódios
148
Publicação
semanal
Último episódio
18 nov 2026

Sobre o podcast

Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

Episódios 148

  1. Be nesa' i Reform yn y Senedd?

    34 min

    Be nesa' i Reform yn y Senedd? Wrth i foicot Reform UK o'r Senedd parhau, mae Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yn ôl i drafod beth fydd yn digwydd nesaf rhwng y blaid a'r Llywydd. Mae …

    Notas do episódio

    Be nesa' i Reform yn y Senedd?

    Wrth i foicot Reform UK o'r Senedd parhau, mae Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yn ôl i drafod beth fydd yn digwydd nesaf rhwng y blaid a'r Llywydd. Mae Elliw Gwawr hefyd yn ymuno a'r tri i drafod y diweddaraf.

    Mae wedi bod yn wythnos hanesyddol i Blaid Cymru ar ôl cyhoeddi ei chyllideb yr wythnos hon. Beth mae'r cyfan yn dweud am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru?

    Ac ar ôl cynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno dros y penwythnos. Mae'r pedwar yn trafod faint mae'r blaid wedi dysgu o Etholiad y Senedd ym mis Mai?

  2. Beth fyddai Dafydd Êl yn ei wneud?

    33 min

    Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod boicot plaid Reform o gyfarfod llawn y Senedd a'r adroddiad i Lafur Cymru sy'n cael Hefyd, mae un o gyd-gadeiryddion y Comisiwn ar …

    Notas do episódio

    Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod boicot plaid Reform o gyfarfod llawn y Senedd a'r adroddiad i Lafur Cymru sy'n cael

    Hefyd, mae un o gyd-gadeiryddion y Comisiwn ar Annibyniaeth, Emyr Lewis, yn trafod ei swydd newydd ac wrth i gynhadledd Llafur Cymru cael ei chynnal yn Llandundo dros y penwythnos, mae'r tri yn dadansoddi beth nesa' sydd i'r blaid. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

  3. Ydy Cymru'n Cyfri?

    29 min

    A fydd rhagor o ddatganoli yn dod i Gymru ar ôl i Andy Burnham a Rhun ap Iorwerth gwrdd yn Glasgow? Mae Vaughan, Bethan a Richard yn trafod os yw'r berthynas rhwng llywodraethau Caerdydd a Llundain wedi newid …

    Notas do episódio

    A fydd rhagor o ddatganoli yn dod i Gymru ar ôl i Andy Burnham a Rhun ap Iorwerth gwrdd yn Glasgow?

    Mae Vaughan, Bethan a Richard yn trafod os yw'r berthynas rhwng llywodraethau Caerdydd a Llundain wedi newid yn dilyn y cyfarfod yn yr Alban Mae'n tri hefyd yn edrych ymlaen at yr Etholiadau Lleol yng Nghymru ymhen chwe mis.

    Ac ar ôl i'r Democratiaid gipio'r Gyngres yn Washington, beth fydd hyn yn ei olygu i arlywyddiaeth Donald Trump?

  4. Cyllideb Dewi Sant?

    29 min

    Mae'n ddiwrnod prysur yn San Steffan! Gyda Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yn ei chanol hi yn Llundain a Vaughan Roderick yng Nghaerdydd, y tri sy'n ymateb i gyhoeddiad y Gyllideb!Mae nhw hefyd yn …

    Notas do episódio

    Mae'n ddiwrnod prysur yn San Steffan! Gyda Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yn ei chanol hi yn Llundain a Vaughan Roderick yng Nghaerdydd, y tri sy'n ymateb i gyhoeddiad y Gyllideb!

    Mae nhw hefyd yn ystyried y goblygiadau i Gymru a'r posibilrwydd o etholiad cyffredinol cynnar.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

  5. Gair o Gyngor gan yr Arglwydd Wigley

    32 min

    Yr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno â Vaughan, Bethan a Richard i drafod ei ddadansoddiad o berfformiad Llywodraeth Plaid Cymru ym Mae Caerdydd.Mae'r tri hefyd yn trafod araith Prif Weinidog Cymru, Rhun ap …

    Notas do episódio

    Yr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno â Vaughan, Bethan a Richard i drafod ei ddadansoddiad o berfformiad Llywodraeth Plaid Cymru ym Mae Caerdydd.

    Mae'r tri hefyd yn trafod araith Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ynglyn â datganoli pellach i Gymru a phenderfyniad y Llywodraeth i ohirio'r newidiadau yng Nghymru.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn ar gyfer rhaglenni'r dyfodol drwy e-bostio [email protected].

  6. Arian mân?

    35 min

    Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod cytundeb Llywodraeth Plaid Cymru gyda'r Blaid Lafur wedi dod i gytundeb ar y gyllideb atodol. Mae'r tri hefyd yn sgwrsio gyda'r cyn-Aelod …

    Notas do episódio

    Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod cytundeb Llywodraeth Plaid Cymru gyda'r Blaid Lafur wedi dod i gytundeb ar y gyllideb atodol. Mae'r tri hefyd yn sgwrsio gyda'r cyn-Aelod o'r Senedd dros y Ceidwadwyr, Sam Kurtz. A chofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r tri trwy e-bostio [email protected]

  7. Beth nesa' i Polanski?

    19 min

    Ar ol i'r Blaid Lafur ennill is-etholiad Holborn a St Pancras gydag arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr Zack Polanski yn dod yn ail - mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r canlyniad a beth mae'n golygu …

    Notas do episódio

    Ar ol i'r Blaid Lafur ennill is-etholiad Holborn a St Pancras gydag arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr Zack Polanski yn dod yn ail - mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r canlyniad a beth mae'n golygu i arweinyddiaeth Polanski.

  8. Y Pedwar Llew Tew

    38 min

    Mae triawd y buarth yn ôl! Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n holi'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones. Mae nhw’n trafod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth …

    Notas do episódio

    Mae triawd y buarth yn ôl! Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n holi'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones. Mae nhw’n trafod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth, araith Kemi Badenoch yng Nghynhadledd y Torïaid ac ymddiswyddiad dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Phil Davies. Mae’r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi - cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

  9. Rhwng Dau Rosyn

    29 min

    Alun Davies, cyn-weinidog o Lywodraeth Lafur Cymru a’r cyn-ymgeisiydd, Owain Williams sy’n ymuno â Bethan a Richard i drafod cynhadledd y blaid yn Lerpwl.Mae’r pedwar yn dadansoddi araith Andy Burnham a …

    Notas do episódio

    Alun Davies, cyn-weinidog o Lywodraeth Lafur Cymru a’r cyn-ymgeisiydd, Owain Williams sy’n ymuno â Bethan a Richard i drafod cynhadledd y blaid yn Lerpwl.

    Mae’r pedwar yn dadansoddi araith Andy Burnham a chyfeiriad y blaid Lafur yng Nghymru.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

  10. Ysgol David Hughes: Eton Cymru?

    33 min

    Owain Clarke, y gohebydd iechyd sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yr wythnos hon i drafod y rhestrau aros sy'n wynebu'r llywodraeth newydd ym Mae Caerdydd. Mae'r ddau hefyd yn trafod penodiad …

    Notas do episódio

    Owain Clarke, y gohebydd iechyd sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yr wythnos hon i drafod y rhestrau aros sy'n wynebu'r llywodraeth newydd ym Mae Caerdydd.

    Mae'r ddau hefyd yn trafod penodiad dau arweinydd newydd i Reform yng Nghymru.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

  11. Richard yn Rong am Reform

    28 min

    Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod y trafferthion mae plaid Reform wedi'u hwynebu yn y Senedd yr wythnos hon. Mae cyn-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, hefyd yn ymuno i drafod y …

    Notas do episódio

    Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod y trafferthion mae plaid Reform wedi'u hwynebu yn y Senedd yr wythnos hon.

    Mae cyn-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, hefyd yn ymuno i drafod y goblygiadau o dderbyn aelod sydd wedi croesi'r llawr.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

  12. Reform - Cai Parry-Jones

    27 min

    Cai Parry-Jones o blaid Reform UK sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod ei argraffiadau cyntaf o fod yn Aelod o'r Senedd. Mae’r ddau yn holi Cai am gynhadledd Reform a'r ymchwiliadau i …

    Notas do episódio

    Cai Parry-Jones o blaid Reform UK sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod ei argraffiadau cyntaf o fod yn Aelod o'r Senedd.

    Mae’r ddau yn holi Cai am gynhadledd Reform a'r ymchwiliadau i ariannu'r blaid ar hyn o bryd.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

  13. Penyberth

    55 min

    Dyma rifyn arbennig o Gwleidydda gyda Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn nodi 90 mlynedd ers llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth. Yn y bennod yma fe drafodir arwyddocâd y tân a’r effaith ar …

    Notas do episódio

    Dyma rifyn arbennig o Gwleidydda gyda Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn nodi 90 mlynedd ers llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth. Yn y bennod yma fe drafodir arwyddocâd y tân a’r effaith ar genedlaetholdeb heddiw, a hynny yng nghmwni Dafydd Iwan, Ian Gwyn Hughes, ŵyr Lewis Valentine, y cyn farnwr Nic Parry a’r hanesydd Mari Wiliam.

  14. Dau Brif Weinidog - Mis Mêl ar Ben?

    28 min

    Bethan Rhys Roberts a'r gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr sy'n trafod dechrau'r tymor gwleidyddol newydd. Mae'r ddwy yn dadansoddi sesiwn PMQs cyntaf y Prif Weinidog Andy Burnham cyn troi at gynhadledd i'r wasg …

    Notas do episódio

    Bethan Rhys Roberts a'r gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr sy'n trafod dechrau'r tymor gwleidyddol newydd. Mae'r ddwy yn dadansoddi sesiwn PMQs cyntaf y Prif Weinidog Andy Burnham cyn troi at gynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru. Ydy'r cyfnod mis mêl ar ben i'r ddau Brif Weinidog newydd? Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

  15. Cloch Clacton

    21 min

    Yn dilyn rhifyn arbennig o'r Babell Lên yn Eisteddfod y Garreg Las, mae Bethan a Richard yn ôl yn y stiwdio yn dadansoddi canlyniad is-etholaiad Clacton on Sea. Arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, yn …

    Notas do episódio

    Yn dilyn rhifyn arbennig o'r Babell Lên yn Eisteddfod y Garreg Las, mae Bethan a Richard yn ôl yn y stiwdio yn dadansoddi canlyniad is-etholaiad Clacton on Sea. Arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, yn ennill gyda 63% o'r bleidlais sy'n cael sylw y ddau.

  16. Y Prif Weinidog yn Y Babell Lên

    50 min

    Bethan Rhys Roberts sy'n holi'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn Y Babell Lên ar faes Eisteddfod y Garreg Las.Mewn sgwrs wedi ei recordio'n fyw o flaen …

    Notas do episódio

    Bethan Rhys Roberts sy'n holi'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn Y Babell Lên ar faes Eisteddfod y Garreg Las.

    Mewn sgwrs wedi ei recordio'n fyw o flaen gynulleidfa, mae'r Prif Weinidog yn trafod heriau ei swydd newydd, ei brofiad o lywodraethu, a'i weledigaeth ar gyfer y dyfodol.

    Mae'r gynulleidfa yn cael cyfle i holi cwestiynau. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

  17. Amser a ddengys

    28 min

    Des Clifford, cyn-bennaeth Swyddfa Prif Weinidog Cymru, sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod y gwahaniaethau rhwng dyddiau cynnar y Prif Weinidogion Rhun ap Iorwerth ac Andy …

    Notas do episódio

    Des Clifford, cyn-bennaeth Swyddfa Prif Weinidog Cymru, sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod y gwahaniaethau rhwng dyddiau cynnar y Prif Weinidogion Rhun ap Iorwerth ac Andy Burnham.

    Mae'r tri hefyd yn trafod strategaeth y ddau arweinydd ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn drwy e-bostio [email protected].

  18. Crafu'r Cregyn Llong

    24 min

    Cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod diwrnodau cyntaf seithfed Prif Weinidog y DU mewn degawd, Andy Burnham. Mae'r tri hefyd yn trafod penodiad Stephen …

    Notas do episódio

    Cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod diwrnodau cyntaf seithfed Prif Weinidog y DU mewn degawd, Andy Burnham. Mae'r tri hefyd yn trafod penodiad Stephen Kinnock fel Ysgrifennydd Cymru ac yn holi beth mae ei benodiad yn ei olygu i ddatganoli. Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

  19. Gwynfor a'r Gyllideb

    36 min

    Wedi sesiwn holi olaf Keir Starmer fel Prif Weinidog, mae Vaughan a Richard yn trafod ei gyfnod wrth y llyw. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi methiant Llywodraeth Cymru i basio ei chyllideb atodol a'r tensiynau …

    Notas do episódio

    Wedi sesiwn holi olaf Keir Starmer fel Prif Weinidog, mae Vaughan a Richard yn trafod ei gyfnod wrth y llyw. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi methiant Llywodraeth Cymru i basio ei chyllideb atodol a'r tensiynau rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru. A 60 mlynedd wedi ethol Gwynfor Evans mae ei gyn-asiant, Peter Hughes-Griffiths yn edrych yn ôl ar lwyddiant y cyfnod a'r hyn yr oedd yn ei olygu i Blaid Cymru.

  20. Dadansoddi gyda Drakeford

    34 min

    Cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, sy'n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon. Mae'r tri yn trafod be all dyfodol y blaid Lafur bod o dan arweinyddiaeth Andy Burnham, ymddiswyddiad Nigel Farage fel …

    Notas do episódio

    Cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, sy'n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon.

    Mae'r tri yn trafod be all dyfodol y blaid Lafur bod o dan arweinyddiaeth Andy Burnham, ymddiswyddiad Nigel Farage fel Aelod Seneddol a'r galw dros system bleidleisio newydd. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

  21. Fformiwla Burnham?

    30 min

    Bethan Rhys Roberts, Richard Wyn Jones ac Elliw Gwawr sy'n craffu ar fformiwla Barnett yr wythnos hon. Mae'r tri yn trafod pa mor deg yw'r fformiwla i Gymru a pa mor debygol yw Prif Weinidog nesaf y Deyrnas …

    Notas do episódio

    Bethan Rhys Roberts, Richard Wyn Jones ac Elliw Gwawr sy'n craffu ar fformiwla Barnett yr wythnos hon.

    Mae'r tri yn trafod pa mor deg yw'r fformiwla i Gymru a pa mor debygol yw Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig o newid y drefn.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

  22. Meseia heb fandad?

    28 min

    Bethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod pam penderfynodd Keir Starmer i ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur. Mae'r tri yn trafod be all Andy Burnham fel Prif Weinidog olygu i ddatganoli …

    Notas do episódio

    Bethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod pam penderfynodd Keir Starmer i ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur.

    Mae'r tri yn trafod be all Andy Burnham fel Prif Weinidog olygu i ddatganoli.

    Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

  23. Yr Ymddiswyddiad

    18 min

    Ar ôl i Syr Keir Starmer gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur, beth nesa' i'r blaid a'r wlad? Vaughan, Elliw a chyn Aelod o Senedd Cymru, Alun Davies sy'n dadansoddi'r cyfan.

  24. Buddugoliaeth i Burnham

    28 min

    Buddugoliaeth Andy Burnham yn is-etholiad Makerfield sy'n destun trafod i Vaughan a Richard. Mae’r ddau yn dadansoddi beth mae hyn yn golygu i'r Prif Weinidog, Kier Starmerm ac yn ateb eich cwestiynau chi …

    Notas do episódio

    Buddugoliaeth Andy Burnham yn is-etholiad Makerfield sy'n destun trafod i Vaughan a Richard.

    Mae’r ddau yn dadansoddi beth mae hyn yn golygu i'r Prif Weinidog, Kier Starmerm ac yn ateb eich cwestiynau chi.

    Cofiwch fod modd cysylltu trwy e-bostio [email protected]

  25. Cip ar y Cyfansoddiad

    25 min

    Dafydd Trystan Davies AS, y Gweinidog Cabinet dros Effeithlonrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod ei swydd newydd. Mae’r ddau hefyd yn dadansoddi …

    Notas do episódio

    Dafydd Trystan Davies AS, y Gweinidog Cabinet dros Effeithlonrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod ei swydd newydd. Mae’r ddau hefyd yn dadansoddi is-etholiad Makerfield yr wythnos nesa'. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

  26. Pedwar Prif Weinidog

    27 min

    Pedwar Prif Weinidog Gyda bron pedair wythnos ers etholiad y Senedd mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o effaith 'nath yr ymgyrch cael ar y bleidlais derfynol. Mae'r tri hefyd yn trafod sesiwn holi …

    Notas do episódio

    Pedwar Prif Weinidog Gyda bron pedair wythnos ers etholiad y Senedd mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o effaith 'nath yr ymgyrch cael ar y bleidlais derfynol. Mae'r tri hefyd yn trafod sesiwn holi gyntaf y Prif Weinidog. Mae'r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

  27. Blair iawn

    35 min

    Vaughan a Richard sy'n trafod sylwadau diweddar Syr Tony Blair am sefyllfa Llywodraeth Lafur Prydain. Pa effaith fydd achos cyn brif weithredwr yr SNP Peter Murrell yn ei gael yn yr Alban? Ac mae gan Richard …

    Notas do episódio

    Vaughan a Richard sy'n trafod sylwadau diweddar Syr Tony Blair am sefyllfa Llywodraeth Lafur Prydain. Pa effaith fydd achos cyn brif weithredwr yr SNP Peter Murrell yn ei gael yn yr Alban? Ac mae gan Richard atebion i'ch cwestiynau chi.

    Cofiwch fod modd i chi gysylltu â'r criw gyda'ch ymateb chi i'r canlyniad trwy e-bostio [email protected]

  28. Wythnos Mêl?

    26 min

    Vaughan, Richard ag Elliw yn trafod trafferthion y Llywodraeth Lafur yn San Steffan ac yn edrych yn ôl dros ddyddiau cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru wrth y llyw yn y Senedd.

  29. Andy-bendod

    24 min

    Mewn pennod brys o'r pod mae Vaughan a Richard yn ôl i drafod y diweddara o ran sefyllfa wleidyddol yn San Steffan. Mae'r ddau hefyd yn trafod cabinet newydd Lywodraeth Cymru a beth all y newidiadau golygu …

    Notas do episódio

    Mewn pennod brys o'r pod mae Vaughan a Richard yn ôl i drafod y diweddara o ran sefyllfa wleidyddol yn San Steffan. Mae'r ddau hefyd yn trafod cabinet newydd Lywodraeth Cymru a beth all y newidiadau golygu. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

  30. Amser i Lywodraethu

    25 min

    Ar ôl canlyniad hanesyddol Etholiad y Senedd wythnos dwetha' mae Vaughan a Richard yn trafod goblygiadau'r canlyniad. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi'r heriau fydd yn wynebu'r Prif Weinidog newydd, Rhun ap …

    Notas do episódio

    Ar ôl canlyniad hanesyddol Etholiad y Senedd wythnos dwetha' mae Vaughan a Richard yn trafod goblygiadau'r canlyniad. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi'r heriau fydd yn wynebu'r Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

Aqui estão os 40 episódios mais recentes de 148. Os mais antigos estão no feed do podcast.

Este podcast é seu?

Confirme com uma entrada no seu feed: você recebe um código aqui, adiciona como podcast:txt no canal do seu feed e nós verificamos. Depois disso, seu podcast aparece como “verificado” no SoundNode.

Configurações

Exibição

Idioma

Define quais estações você vê primeiro na página inicial.

Histórico

As rádios e episódios ouvidos recentemente e suas últimas buscas ficam só neste navegador.

Avisos

Um aviso rápido quando um podcast que você segue tem um episódio novo. Desative podcasts individuais pelo sino na página deles.

Conta

Salve favoritos – no app e no site.

Atalhos de teclado

/
Abrir busca
Espaço
Reproduzir ou pausar
← →
No player: voltar 15 s, avançar 30 s (episódios) · na fileira: próximo bloco
↑ ↓
Na fileira: alvo dentro do bloco
Home / End
Na fileira: primeiro ou último bloco
Esc
Fechar janela ou menu
?
Esta visão geral
Tocando agora

Ir para a estação

A seguir

    Adicione episódios com “A seguir” – eles tocam depois do episódio atual.